O dyro i mi Ragluniaeth
Ysgafn Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn
Mor ysgafn a'r awel fwyn
A phan ddaw'r amser i gael fy marnu
O! Cym i ystyriaeth
Fy nghyfraniad i'r achosion da
Ac er yr holl deithio, Y llwgr-wobrwyo
Y cyffuriau caled, Y merched o bedwar ban
Dw i wedi hen flino Ar fy mhwdr areithio
Yr holl ddanteithio, Fy mrad o iaith y nef
Y rhegi cyhoeddus, Y lluniau anweddus
Fy nghabledd o flaen y groes
Yr hunan-dosturi, Y cwrw a'r miri
Fy ofer-ymffrostio
Tra'n rhostio yn y gwledydd poeth
A phan ddaw'r cyfweliad, Erfynaf am fynediad
Drwy lidiart y nefoedd I'r cyfoeth ar yr ochr draw
A chym i ystyriaeth, Er gwaethaf fy mhechodau
Fy holl rinweddau, Sy'n rhifo ar un llaw
Ond beth bynnag dy farn, Erfynaf am
Ragluniaeth ysgafn, Rhagluniaeth ysgafn
Rhagluniaeth ysgafn Mor ysgafn a phluen dryw